
LISA PARRY
DRAMODWRAIG
Isod mae rhywfaint o wybodaeth am fy nramâu mwy diweddar. Ar hyn o bryd rwy'n datblygu darn newydd gyda Illumine Theatre yn ogystal ag ymchwilio i ddrama newydd, gyda chefnogaeth Sefydliad Peggy Ramsay.

THE MERTHYR STIGMATIST
⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ "urgent and contemporary" - Theatre Weekly
⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ "nimbly traverses the rocky terrain of politics, culture and faith" - Get the Chance
⭐️⭐️⭐️⭐️ "it is deeply moving" - The Guardian
⭐️⭐️⭐️⭐️ "stylish, tense, taunt" - The Stage
Cafodd fy nrama The Merthyr Stigmatist (a gyrhaeddodd y rhestr fer yng ngwobrau cyntaf Theatr Uncut ar gyfer ysgrifennu drama wleidyddol) ei dangos am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2021, dan gyfarwyddyd Emma Callender, mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Uncut. Fe'i rhyddhawyd yn ddigidol oherwydd Covid-19. Mae'r sgript ar gael yma gan Nick Hern Books.
THE ORDER OF THE OBJECT
⭐️⭐️⭐️⭐️ "a fascinating critique of both the religious and the secular" - Get the Chance
Cafodd fy nrama The Order of the Object ei llwyfannu yn Theatr Clwyd yn 2021, fel rhan o Curtain Up, i ddathlu perfformiadau byw unwaith eto. Fe'i cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey.


2023
⭐️⭐️⭐️⭐️1 / 2 "[a] stunning new play" - Get the Chance
⭐️⭐️⭐️⭐️ "a morality tale for the Black Mirror generation" - Buzz
⭐️⭐️⭐️⭐️ "one of the most interesting pieces of theatre I'd seen in a long time" - Quench
Llwyfannwyd fy nrama 2023 yn Chapter, Caerdydd yn 2018, gan lansio Illumine Theatre. Yn y Wales Arts Review nodwyd bod y ddrama wedi ei “hysgrifennu’n wych”. Cafodd ei chyfarwyddo gan Zoë Waterman. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad - sgyrsiau ar ôl y sioe, cyfweliadau gyda'r cast - yn y fan yma. Perfformiwyd darnau o’r ddrama yn The Barbican yn 2019, ar ôl i Illumine gael ei gwahodd i ddod â nhw i’r ŵyl Fertility Fest.